Neidio i’r cynnwys
Man placing a facemask on a young child

Iechyd Oedolion a Gofal Cymdeithasol

Nid rôl sy'n rhoi boddhad emosiynol yn unig yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol i oedolion, mae'n un o'r rhai mwyaf amrywiol hefyd. Mae gweithio gydag ystod o bobl â gwahanol anghenion gofal yn golygu bod pob diwrnod yn wahanol i'r nesaf. Yn fwy na hynny mae miloedd o swyddi ar gael ledled y wlad. Felly, os ydych yn chwilio am swydd i ymfalchïo ynddi, nawr gallai fod yr amser perffaith i ddechrau eich gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Mathau o swyddi

Mae yna lawer o wahanol rolau swydd ym maes gofal cymdeithasol; mae’n dibynnu ar yr hyn y mae gennych ddiddordeb ynddo, gyda phwy rydych am weithio a ble rydych am weithio. Gallwch weithio mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys mewn cartref gofal preswyl, yng nghartref rhywun arall neu hyd yn oed yn eich cartref eich hun, yn cefnogi pobl fel gofalwr Shared Lives.

Gofal gartref – cefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain

Gallai unrhyw un ar unrhyw gam o fywyd fod angen gofal a chefnogaeth wrth fyw gartref ac yn eu cymuned. Mae hyn yn cynnwys pobl ag anableddau dysgu, cyflyrau iechyd meddwl, nam ar y synhwyrau neu anableddau corfforol a phobl hŷn. Darganfyddwch fwy ar wefan Every Day is Different.

Gofal preswyl – cefnogi pobl sy’n byw mewn cartrefi nyrsio/gofal

Yn aml (ond nid bob amser) gall gofal preswyl gynnwys gweithio gyda phobl â chyflyrau iechyd fel dementia ac anghenion cymhleth eraill sy’n ei gwneud hi’n anodd iddynt fyw’n annibynnol yn eu cartref eu hunain. Darganfyddwch fwy ar wefan Every Day is Different.

Cynlluniau ‘Shared Lives’ – agor eich bywyd i gynnwys rhywun sydd angen gofal a chefnogaeth

Mae gofalwyr ‘Shared Lives’ yn agor eu cartref a’u bywyd teuluol i gynnwys rhywun sydd angen gofal a chefnogaeth. Gallai fod am ddiwrnod, seibiant byr, neu i fyw gyda chi fel rhan o’ch teulu dros y tymor hir. Darganfyddwch fwy ar wefan Every Day is Different.

Manteision gweithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

  • Gofal cymdeithasol oedolion yw un o’r ychydig sectorau lle mae swyddi’n cynyddu, gan gynnig nifer sylweddol o gyfleoedd gyrfa tymor hir.
  • Gyda miloedd o swyddi ar gael ledled y wlad, mae yna lawer o resymau gwych i ddod yn weithiwr gofal cymdeithasol oedolion ar hyn o bryd.
  • Y cyfle i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a helpu’ch cymuned leol
  • Dilyniant camu ymlaen yn eich gyrfa, hyfforddiant a dysgu sgiliau trosglwyddadwy newydd.
  • Rhagolygon a chyfleoedd cyflogaeth tymor hir.
  • Oriau hyblyg i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau eraill.
Doctor working in front of laptop holding stethoscope

Sgiliau dymunol

Nid oes angen profiad na chymwysterau blaenorol arnoch i ddechrau. Os ydych yn frwdfrydig am helpu eraill, mae gennych eisoes y rhinweddau sydd eu hangen ac mae hyfforddiant am bopeth arall. I lawer o gyflogwyr mae agwedd a gallu unigolyn i fod yn empathetig yn ffactorau pwysig, ac yn aml mae cyfleoedd i fynd i mewn i leoliadau gofal heb brofiad uniongyrchol yn y sector.

Ar gyfer llawer o swyddi, nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch. Fodd bynnag, mae yna rai opsiynau gwych ar gyfer dysgu ar-lein am ddim a allai roi mantais i’ch ceisiadau. Mae hyn yn cynnwys cymhwyster lefel 2 mewn Iechyd Oedolion a Gofal Cymdeithasol sydd ar gael am ddim trwy’r Open University (yn agor mewn tab newydd).

CYMORTH OS OES GENNYCH ANABLEDD NEU GYFLWR IECHYD HIRDYMOR

Mae llawer o gyflogwyr yn y sector hwn yn aelodau o’r cynllun Hyderus o ran Anabledd. Mae hyn yn golygu eu bod wedi ymrwymo i gamau gweithredu a fydd yn darparu cyfleoedd sy’n gysylltiedig â gwaith i bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol. Gallwch chwilio am swydd gyda chyflogwr Hyderus o ran Anabledd ar Dod o hyd i swydd.

Gall Mynediad i Waith dalu tuag at y costau am gymorth cyfathrebu mewn cyfweliad swydd ac efallai y gall ddarparu cymorth ymarferol neu iechyd meddwl parhaus pan fyddwch yn cael swydd. I gael gwybod a ydych yn gymwys, edrychwch ar y canllawiau diweddaraf.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn

Gweithio'n ddiogel yn ystod Coronafeirws

Darganfyddwch sut i leihau'r risg o ledu COVID-19 yn eich gweithle.

Ewch i'r safle

Sectorau eraill sy’n cyflogi ar hyn o bryd