Os ydych wedi cyrraedd neu’n nesáu at oedran pensiwn efallai y bydd angen cyngor arnoch am bensiynau neu ymddeoliad.
I wybod beth sy’n digwydd ynglŷn â’ch pensiwn gweithle, gofynnwch i’ch cyflogwr blaenorol neu ddarparwr pensiwn. I ddod o hyd i ragor am eich Pensiwn y Wladwriaeth, gan gynnwys faint y gallech gael pan fyddwch yn ei hawlio, ewch i Wirio eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych yn 50 oed neu drosodd ac mae gennych bensiwn ar sail cyfraniadau wedi’u diffinio gallwch gael apwyntiad arweiniad diduedd am ddim gyda Pension Wise. Ffoniwch 0800 138 3944 i drefnu apwyntiad neu ewch i Pension Wise.
I gael cyngor annibynnol ar bensiynau, ewch i’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau.
Os ydych angen gwybodaeth am sut y gall pensiynau cael eu heffeithio gan fethdaliad, ewch i The Pension Protection Fund.