Os ydych yn chwilio am gyfle gwaith newydd, gallai’r diwydiant Technoleg Gwybodaeth (TG) gynnig mwy nag yr ydych chi’n ei sylweddoli.
Dyma rai mythau poblogaidd am y diwydiant TG, wedi’u chwalu!
“Mae TG yn cael ei ddominyddu gan ddynion, yn ‘geeky’ ac yn gymhleth”
- mae merched yn cyfrif am ddim ond 17% o weithwyr proffesiynol TG a Thelathrebu ond nod y fenter Merched a TG gan Gyngor Sgiliau’r Sector E-Sgiliau yw gwneud gwahaniaeth i’r gymysgedd rhywedd a delwedd y diwydiant.
“Mae’n rhaid i chi fyw yn Llundain i fynd i mewn i’r sector”
- mae’n wir bod gan Lundain a de-ddwyrain Lloegr fwy o swyddi na rhanbarthau eraill ond mae’r cyfanswm yn llai na hanner holl swyddi’r DU ym maes TG.
“Nid oes unrhyw swyddi ym maes TG”
- bydd cyflogaeth yn y galwedigaethau proffesiynol TG a Thelathrebu yn tyfu ar 2.19% y flwyddyn – bron i bum gwaith yn gyflymach na chyfartaledd y DU.
- mae angen 21,000 o recriwtiaid newydd ar y DU i’r sector TG bob blwyddyn o addysg.
- mae’r nifer o swyddi gwag TG/Telathrebu wedi codi ym mhob un o’r pedwar chwarter diwethaf.
Ble nesaf…
Chwiliwch am a gwneud cais am swyddi ym maes TG ar wefan Dod o Hyd i Swydd. I gael proffiliau swyddi manwl a gwybodaeth bellach ewch i wefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol.
Ac os mae sgiliau digidol mae gennych ddiddordeb ynddynt, yna mae gan y ‘Skills Tookit’ ar wefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol gyrsiau ar-lein am ddim ar bob lefel – gan bobl fel Google.