Meddwl am yrfa newydd mewn bancio? Dyma beth sydd rhaid i chi wybod am sgiliau cyflog, beth i’w ddisgwyl yn y swydd, a rhagor.
Mae sector bancio yn cwmpasu llawer o feysydd gwaith – a pheidiwch â meddwl nad ydynt mond yn edrych am bobl sydd â graddau, oherwydd nad ydynt. Mae siawns dda bod gennych y sgiliau maent yn chwilio amdanynt.
Pa sgiliau rwyf eu hangen?
Mae llawer o sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer swyddi mewn bancio. Mae’n rhain yn cynnwys:
- llygad am y manylion
- sgiliau trefnu cryf
- sgiliau cyfrifiadurol da
- sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid da
- sgiliau cyfathrebu ardderchog ar lafar
- sgiliau rhifol cryf
Pa fath o swyddi sydd ar gael?
Dyma rai enghreifftiau o’r mathau o swyddi sydd ar gael:
- ymgynghorwyr a rheolwyr gwasanaeth cwsmeriaid canghennau banc
- ymgynghorwyr a rheolwyr gwasanaeth cwsmeriaid canolfannau gwasanaeth
- ymgynghorwyr gwe-sgyrsio
- cymorth digidol
- cymorth TG
- ymgynghorwyr arbenigol ar fancio – morgeisi, benthyciadau, ayyb.
- swyddi yn y pencadlys – gan gynnwys AD, Cyllid, Marchnata
Pa gymwysterau a phrofiad rwyf eu hangen?
Mae disgwyl i rai gweithwyr proffesiynol mewn bancio manwerthu gael o leiaf pedair gradd TGAU 9-4/A*-C neu gyfwerth, gan basio yn Saesneg a Mathemateg. Yn gyffredinol maent yn dechrau mewn swydd gwasanaethau cwsmeriaid cyffredinol, gan helpu cwsmeriaid y banc â’u gofynion. Wrth iddynt fynd yn eu blaen, gallwch ddewis arbenigo mewn mathau penodol o gynnyrch neu hyd yn oed mewn cysylltiadau cwsmeriaid.
Gall gweithwyr proffesiynol mewn bancio manwerthu gweithio eu ffordd i fyny i reoli cangen neu ganolfan gwasanaeth a gellir eu dyrchafu i swyddi uwchreoli hyd yn oed.
Graddedigion
Mae gan lawer o gyflogwyr gynlluniau graddedigion, interniaethau, a phrenitisiaethau uwch mewn lle i nifer o swyddi o fewn y sector.
Beth mae’r sector yn ei gynnig i mi?
- mae pob lefel o brentisiaeth ar gael
- mae hyfforddiant mewnol ar gael fel arfer i gael dyrchafiad – mae’n well gan y rhan fwyaf o fanciau hyfforddi a dyrchafu eu staff eu hunain – felly’r unig ffordd yw i fyny
- os ydych yn chwilio am waith hyblyg, mae swyddi rhan-amser i’w cael yn aml
Beth gallaf ei ddisgwyl?
- yr ystod eang o gyfleoedd: mae’r sector bancio yn y DU yn enfawr. Mae gweithio i fanc mor amrywiol, gallai olygu gwaithio yn y pencadlys mewn marchnata, adnoddau dynol, neu mewn sawl swydd arall gan gynnwys TG.
- datblygiad: gan fod sefydliadau bancio mor fawr, mae bob tro gyfleoedd i fynd ymlaen yn y sefydliad ac i mewn i swyddi eraill. Yn aml mae swyddi’n cael ei hysbysebu’n fewnol gyntaf, felly unwaith eich bod i mewn i sefydliad chi fydd y cyntaf i wybod am swyddi gwag.
- hyfforddiant: mae banciau’n adnabyddus am gael staff sydd wedi eu hyfforddi’n dda felly beth bynnag fo’ch swydd, cewch y sgiliau sydd angen arnoch i wneud y swydd a gellir trosglwyddo llawer o’r sgiliau hyn i ddiwydiannau eraill petasech yn penderfynu symud ymlaen.
- buddion a chyflog: mae cyflogau mewn bancio yn gystadleuol ac yn aml mae cyflogwyr mawr ym maes bancio yn cynnig buddion ardderchog ychwanegol fel gofal iechyd preifat a gostyngiadau â manwerthwyr mawr. Yn aml gall gweithwyr banciau gael gostyngiadau ar forgeisi, benthyciadau, a chardiau credyd gan eu cyflogwyr ar ôl cyfnod penodol.
- bri: caiff bancio ei weld fel gyrfa dyunol, mawr ei fri, ac mae’n cael ei ystyried i fod yn fwy diogel na sectorau eraill fel manwerthu neu neu ffasiwn.
Pethau efallai bydd rhaid i chi eu hystyried
- efallai bydd rhaid gwneud gwiriadau cefndir: mae rhai swyddi’n gofyn am wiriadau gan yr heddlu i gefndir yr ymgeisydd. Mae hyn yn debyg i wiriadau DBS ac y golygu efallai caiff pobl sydd â chollfarnau am dwyll, lladrad, a throseddau eraill eu rhwystro rhag cymryd swydd yn trin ag arian neu â chyfrifoldeb am arian.
- newidiadau cyflym: mae bancio manwerthu wedi ei drawsnewid dros y degawd diwethaf trwy dechnoleg digidol. Ni fydd cyflymdra’r newidiadau’n arafu, ac mae’n debyg nid hon fydd yr yrfa i chi os ydych yn hoffi pethau i fod yn llonydd a sefydlog.
- eich rhifedd: nid yw gweithio â rhifau trwy’r dydd i bawb, ac mae llawer o bobl fwy creadigol yn ei chael yn cyfyngol ac yn ddiflas os yw eu swyddi’n cael eu cyfyngu gan rheolau a rheolaethau.
Beth am y cyflog?
Bydd hyn yn dibynnu ar ble rydych yn gweithio, pa fath o swydd, a lefel eich profiad pan fyddwch yn dechrau’ch cyflogaeth.
Efallai byddwch yn gwethio’n llawn neu rhan-amser a chewch eich talu yn unol â faint o oriau byddwch yn gweithio bob wythnos. Ar gyfartaledd, byddwch bob tro yn cael eich talu isafswm cyflog cenedlaethol/cyflog byw ar gyfer yr oriau byddwch yn gweithio mewn cyfnod talu, gellir dod o hyd i fwy o fanylion ar wefan GOV.UK. Gall cyflogau gynyddu’n gyflym os byddwch yn ennill cymwysterau proffesiynol.
Gallwch gynyddu’ch gyflog sylfaenol â bonysau cwmni ac mae cyfleoedd da i fynd ymlaen. Mae rhai banciau’n cynnig buddion gweithwyr ychwanegol, fel gofal iechyd preifat, cynlluniau pensiwn ac aelodaeth clybiau chwaraeon.
Wrth i chi ennill cymwysterau a phrofiad gall eich cyflog gynyddu.
Rhai ffeithiau diddorol am fanciau yn y DU
- maent yn cyflogi 0.5 miliwn o bobl
- mae banciau a gwasanaethau ariannol yn cyfrannu £70bn i allbwn cenedlaethol y DU (6.8% o GDP)
- mae banciau a gwasanaethau ariannol yn darparu 25% o’r holl dreth gorfforaethol (£8bn) i Lywodraeth y DU
- mae’r prif fanciau manwerthu yn darparu dros 125 miliwn o gyfrifon, yn clirio 7bn o drafodiadau bob blwyddyn ac yn hwyluso 2.3bn alldyniadau arian bob blwyddyn o’u rhwydwaith o dros 30,000 o ATMs am ddim
- mae banciau’n darparu gwasanaethau bancio i 95% o boblogaeth y DU
- gwerth y busnes cyfnewidfa dramor a gaiff ei basio trwy Lundain bob dydd yw £560bn ($1 triliwn)
Barod i wneud cais? Am ragor o wybodaeth am gyfleoedd yn y sector hwn defnyddiwch y dolenni isod:
Gwefan Dod o Hyd i Swydd
Gwefan Prospects
Gwefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol
Neu ewch i wefannau recriwtio’r 10 Banc Manwerthu mwyaf y DU
- Gwefan HSBC
- Gwefan Royal Bank of Scotland
- Gwefan Lloyds Banking Group
- Gwefan Halifax (eiddo Lloyds Banking Group)
- Gwefan Bank of Scotland (eiddo Lloyds Banking Group)
- Gwefan Barclays
- Gwefan Santander
- Gwefan Co-operative
- Gwefan Nationwide(yn y dosbarth cymdeithasau adeiladu)
- Gwefan TSB