Awgrym da 1. Abdul
‘’Os nad oes gennych brofiad neu eisiau newid sector, ystyriwch wirfoddoli yn yr ardal yr ydych eisiau gweithio ynddo. Yn gyntaf, bydd yn rhoi profiad amhrisiadwy i chi ac yn ail bydd yn cynyddu eich rhwydwaith. Bydd hyn hefyd yn dangos i gyflogwyr y dyfodol eich bod yn ymroddedig, yn weithgar ac yn rhoi enghraifft gadarnhaol i chi ei rhoi ar eich CV.’’
Awgrym da 2: Bola
‘’Ar gyfer pobl ifanc – peidiwch â phoeni am gychwyn ar waelod yr ysgol swyddi gan fydd y sgiliau a wnewch bigo fyny ar y ffordd yn amhrisiadwy ac yn eich rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol.’’
Awgrym da 3: Miska
‘’Daliwch ati i ddysgu ac ennill sgiliau newydd ble bynnag bydd yn bosibl, gan y gellir trosglwyddo rhain ar draws sawl rôl. Gall gwaith gwirfoddol fod yn wych ar gyfer hyn.’’
Awgrym da 4: Akerz
‘’Byddwch yn wydn ac aros yn bositif, gall y cyfleoedd gorau gymryd ychydig mwy o amser i ddod’’
Awgrym da 5: Shauna
‘’Sicrhewch fod gennych gynllun gyda’ch nodau gyrfa tymor byr a thymor hir. Os ydych chi’n cychwyn yn eich gyrfa, ystyriwch wneud cais am Kickstart, mae’r cynllun yn darparu swydd 6 mis i bobl ifanc 16 i 24 oed ar Gredyd Cynhwysol i’w helpu i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i sicrhau cyflogaeth’’
Awgrym da 6: Fozia
‘’Os ydych yn ddiwaith neu’n ei chael hi’n anodd yn ariannol, ystyriwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol i helpu gyda eich costau byw. Mae’n bosibl y gallwch ei gael os ydych ar incwm isel, allan o waith neu os ydych methu gweithio.’’
Awgrym da 7: Gilbert
‘’Byddwch yn hyderus a cheisio am swyddi rydych wirioneddol eisiau. Peidiwch â gadael i gyflwr iechyd neu anabledd eich atal rhag ceisio am eich swydd berffaith. Gall Mynediad at Waith eich helpu gyda hyn. Mae llawer o gyflogwyr cefnogol allan yna. Ewch amdani!’’
Awgrym da 8: Natalie
‘’Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer eich chwiliad swydd; LinkedIn, Gweplyfr a Trydar. Ewch i weld cyfrifau trydar eich Canolfan Byd Gwaith leol i ddod o hyd i’r swyddi gwag diweddaraf ar gael yn eich ardal’’