Os ydych chi dros 50 oed ac allan o waith, yn wynebu diswyddo, eisiau dychwelyd i’r gwaith ar ôl ymddeol yn gynnar neu newid swyddi, gall ddod o hyd i’ch rôl nesaf ymddangos yn frawychus.
Efallai ei bod hi’n flynyddoedd ers i chi ysgrifennu CV, neu nid ydych yn siŵr os oes gennych y sgiliau a’r profiad cywir ar gyfer math gwahanol o rôl. Beth bynnag yw’ch sefyllfa, gallwn eich helpu i gychwyn arni.
Ystyried eich opsiynau
Mae’n bosib nad ydych yn gallu gweithio’n llawn amser, efallai oherwydd cyfrifoldebau gofalu neu gyflyrau iechyd. Ond nid yw hynny’n golygu na allwch chi weithio o gwbl.
Mae nifer o gyflogwyr yn cynnig gweithio hyblyg sy’n cynnwys rhannu swydd a gwaith rhan amser fel y gallwch chi dal fod yn gweithio ac ennill mewn ffordd sy’n gweithio i chi. Gallant hefyd gynnig y cyfle i weithio o adref neu mewn lleoliad gwahanol. Os yw hyn yn rhywbeth rydych chi’n edrych i’w wneud, ewch i dudalen gweithio’n hyblyg.
Os ydych chi wedi bod yn chwilio am waith ers tro, wedi colli eich swydd yn ddiweddar, neu’n ystyried newid eich gyrfa, mae gwybodaeth defnyddiol sy’n amrywio o ddatblygu eich sgiliau i weithio’n hyblyg a hunangyflogaeth ar wefan Cymorth a chefnogaeth i weithwyr hŷn.
Cymryd MOT canol oes
Mae MOT canol oes yn ffordd wych o’ch helpu i ystyried eich opsiynau. Beth bynnag yw eich sefyllfa, mae’n bwysig cynllunio ar gyfer eich bywyd hwyrach a meddwl am eich iechyd, eich gwaith a’ch arian.
Datblygu eich sgiliau
Gall wefan Skills for Life yr Adran Addysg eich helpu i ddod o hyd i gyfleoedd dysgu a chymwysterau newydd i wella’ch cyfle o ddod o hyd i waith.
Os ydych yn hawlio budd-daliadau diweithdra ar hyn o bryd, gall eich Anogwr Gwaith gynnig amrywiaeth o gymorth cyflogaeth a sgiliau wedi’u teilwra i chi, fel rhan o 50 PLUS: Choices.
Gall hynny cynnwys, os ydych yn gymwys:
- Cymryd rhan mewn Rhaglen Academi Waith yn Seiliedig ar Sector (SWAP) gyda hyfforddiant ychwanegol a chyfweliad swydd gwarantedig
- Prentisiaethau
- Lleoliadau profiad gwaith
- Cyngor ychwanegol am sgiliau ac ailhyfforddi
Cymorth ychwanegol
Mae cymorth ychwanegol ar gael hefyd os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd.
Os oes angen cymorth ariannol arnoch wrth chwilio am swydd, darganfyddwch pa fudd-daliadau y gallech fod â hawl iddynt.
Dychwelyd i’r gwaith
Os ydych chi wedi cael amser i ffwrdd o’r gwaith ac yn ystyried dychwelyd, gall y pecyn cymorth hwn gan Swyddfa Cydraddoldeb y Llywodraeth ddarparu cefnogaeth a gwybodaeth ychwanegol am y camau nesaf i’w gymryd.
Cymorth i ofalwyr
Os ydych yn ofalwr neu’n gyn-ofalwr, fe allech chi fod yn gymwys i gael cymorth personol. Er enghraifft, efallai y cewch gymorth wrth gysylltu â chyflogwyr, paru eich sgiliau â swyddi gwag cyfredol, neu gael mynediad at hyfforddiant a allai wella’ch cyfle o ddod o hyd i waith. Darganfyddwch fwy ar y Rhaglen Gwaith ac Iechyd.
Menopos a’r gweithle
Mae menywod dros 50 oed yn rhan o’r gweithlu sy’n tyfu gyflymaf, a bydd nifer yn mynd drwy’r menopos yn ystod eu bywydau gwaith. Mae amrywiaeth o ganllawiau ar gael i gyflogwyr ac unigolion i helpu sgyrsiau yn y gweithle. Mae gwybodaeth defnyddiol pellach gan y sefydliadau canlynol:
NHS: Menopause overview
Aviva: A guide to the menopause
ACAS: Menopause at work
Menopause and Employment report
Meddyliwch am waith gwirfoddol
Gall gweithio i’ch pumdegau a’ch chwedegau ac, os dymunwch, ar ôl oedran Pensiwn y Wladwriaeth helpu i gefnogi eich iechyd a’ch lles cymdeithasol i fywyd diweddarach.
Gall gwaith gwirfoddol fod yn ffordd wych i’ch helpu i gael sgiliau newydd a magu hyder mewn gwahanol fathau o waith. Darganfyddwch pa waith gwirfoddol sydd ar gael neu gysylltwch â’ch canolfan wirfoddoli leol.