Neidio i’r cynnwys

Help gydag anableddau, iechyd meddwl a chyflyrau iechyd hirdymor

Mae nifer o adnoddau a chynlluniau ar gael i chi os oes gennych anabledd, iechyd meddwl neu gyflwr iechyd hirdymor.

 

Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd, mae cynlluniau ac adnoddau ar gael i’ch helpu i ddod o hyd i swydd a’i chadw. Mae’r rhain yn cynnwys Mynediad at Waith a’r Rhaglen Waith ac Iechyd. Mae cyngor ar faterion iechyd meddwl hefyd ar gael drwy Every Mind Matters.

Mae gwybodaeth am fudd-daliadau a chymorth ariannol os ydych yn anabl ar gael ar gov.uk, gan gynnwys y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) a Thaliad Annibyniaeth Personol (PIP).