Neidio i’r cynnwys
Man working in hospitality pouring drink

Lletygarwch

Mae'r sector lletygarwch yn fawr ac yn amrywiol. Gallech fod yn gweithio mewn llefydd fel bwytai, bariau, lleoliadau adloniant a chlybiau nos. Mae nifer enfawr o swyddi gwag yn y sector lletygarwch ar gael ym mhob rhanbarth o'r DU ar hyn o bryd. Mae'r sector yn gweithio'n agos gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau bod Anogwyr Gwaith y Ganolfan Gwaith sy’n agos atoch yn gwybod am y cwmnïau sy'n recriwtio.

Mathau o Gyfleoedd

Os ydych chi’n ddi-waith hirdymor, neu os yw’ch amgylchiadau personol yn ei gwneud hi’n anoddach i chi ddod o hyd i swydd, bydd cyflogwyr lletygarwch yn aml yn ystyried eich cyflwyno ar gyfer lleoliadau, profiad gwaith neu dreialon gwaith. Os ydych yn barod i ddarganfod pa anturiaethau allai aros amdanoch chi yn y sector lletygarwch, mae’r cyfleoedd yn aros amdanoch chi ar hyn o bryd!

Mae yna nifer o broffesiynau medrus yn y sector, ac mae sawl un wedi’u cynnwys ar restr llwybrau Gweithiwr Medrus y llywodraeth. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Tafarnwyr a rheolwyr lleoliadau trwyddedig
  • Rheolwyr hamdden a chwaraeon
  • Rheolwyr a threfnwyr cynadleddau ac arddangosfeydd
  • Cogyddion
  • Rheolwyr arlwyo a bar
  • Rheolwyr a pherchnogion bwytai a sefydliadau arlwyo

Oeddech chi’n gwybod bod cyflog cyfartalog y sector lletygarwch yn dechrau rhwng £16,000 a £21,000 ac mae’r ffigurau hyn yn codi. Mae digonedd o gyfleoedd dilyniant yn bodoli ac mae enghreifftiau niferus o unigolion yn dechrau ar y gwaelod ac yn symud ymlaen i lefel yr ystafell reoli o fewn y sector. Gall swyddi rheoli yn gynnig cyflogau dros £28,000 y flwyddyn.

Y manteision o weithio mewn lletygarwch

Gall swydd mewn lletygarwch roi llwyfan gwych i chi ar gyfer gyrfa mewn sectorau eraill hefyd, wrth i staff ddysgu sgiliau cyllidebu cryf, adeiladu tîm a gwasanaeth cwsmeriaid yn ogystal â magu hyder a sgiliau cyfathrebu da a fydd yn angenrheidiol ar gyfer unrhyw rôl yn y dyfodol. Mae gan lawer o fusnesau swyddi gwag ychwanegol ar hyn o bryd hefyd oherwydd yr angen i fod yn ddiogel o ran Covid, er enghraifft, gyda staff ychwanegol yn ofynnol ar gyfer gwasanaeth bwrdd.

Mae gan y sector lletygarwch gynnig hyfforddiant cadarn hefyd, ac mae llawer o gyflogwyr yn cysylltu â chynlluniau prentisiaeth a hyfforddiant rheoli. Mae yna hefyd ddigon o gyfleoedd i symud ymlaen, mewn gwirionedd, mae mwyafrif yr uwch reolwyr o fewn lletygarwch yn dod o rolau lefel mynediad. Am wybodaeth bellach, ewch i wefan the CareerScope  – hyb penodol ar gyfer pobl sy’n chwilio am swyddi yn y sector.

Mae’n amgylchedd cymdeithasol gwych. Mae yna swyddi ym maes lletygarwch sy’n cynnig yr hyblygrwydd i weithio’n gynnar, gorffen yn hwyr neu weithio ar benwythnosau, yn ogystal â phatrymau gwaith mwy strwythuredig. A pheidiwch ag anghofio bod niferoedd tebyg o ddynion a merched yn gweithio yn y sector. Mae rhai cyflogwyr hyd yn oed yn cynnig llety. Mae yna swydd i bawb mewn gwirionedd!

Waiter carrying tray of drinks

Sgiliau dymunol

Ni ydych angen unrhyw brofiad blaenorol, na chymwysterau ffurfiol, i weithio yn y sector lletygarwch. Y prif bethau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn ymgeiswyr yw agwedd gadarnhaol, dull cwrtais a chyfeillgar, ac angerdd am ddarparu gwasanaeth gwych i gwsmeriaid.

Dysgu mwy

CYMORTH OS OES GENNYCH ANABLEDD NEU GYFLWR IECHYD HIRDYMOR

Mae llawer o gyflogwyr yn y sector hwn yn aelodau o’r cynllun Hyderus o ran Anabledd. Mae hyn yn golygu eu bod wedi ymrwymo i gamau gweithredu a fydd yn darparu cyfleoedd sy’n gysylltiedig â gwaith i bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol. Gallwch chwilio am swydd gyda chyflogwr Hyderus o ran Anabledd ar Dod o hyd i swydd.

Gall Mynediad i Waith dalu tuag at y costau am gymorth cyfathrebu mewn cyfweliad swydd ac efallai y gall ddarparu cymorth ymarferol neu iechyd meddwl parhaus pan fyddwch yn cael swydd. I gael gwybod a ydych yn gymwys, edrychwch ar y canllawiau diweddaraf.

 

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn

Gweithio'n ddiogel yn ystod Coronafeirws

Darganfyddwch sut i leihau'r risg y bydd COVID-19 yn ymledu yn eich gweithle.

Ewch i'r safle

Erthyglau

Sectorau eraill sy’n cyflogi ar hyn o bryd