Ydych chi dros 50 oed ac allan o waith? Neu ydych chi’n meddwl am ddod o hyd i rôl newydd sy’n fwy addas ar gyfer eich ffordd o fyw neu gyfrifoldebau gofalu? Mae ystod o opsiynau y gallech eu hystyried. Dyma ychydig o wybodaeth a chyngor i’ch helpu i’ch rhoi ar y trywydd iawn.
Cymryd MOT canol oes
- Mae MOT canol oes (gwefan allanol) yn ffordd wych o’ch helpu i ystyried eich opsiynau gwaith ac ymddeoliad. Beth bynnag yw eich sefyllfa, mae’n bwysig cynllunio ar gyfer eich bywyd hwyrach a meddwl am eich iechyd, eich gwaith a’ch arian fel eich bod yn gallu gwneud dewisiadau a fydd yn sicrhau’r ymddeoliad rydych ei eisiau.
Gweithio’n hyblyg
- Os nad ydych yn gallu gweithio’n llawn amser, nid yw’n golygu na allwch weithio o gwbl.
- Mae llawer o gyflogwyr yn cynnig gweithio hyblyg sy’n cynnwys rhannu swyddi ac oriau rhan amser, felly gallwch barhau i weithio ac ennill mewn ffordd sy’n gyfleus i chi. Efallai y byddant hefyd yn cynnig y cyfle i weithio gartref neu mewn lleoliad sy’n gyfleus i chi.
- Darganfyddwch fwy am y mathau o drefniadau hyblyg sydd ar gael a sut y gallent eich helpu ar ein tudalen gweithio hyblyg.
Datblygu eich sgiliau
Gallai’r sgiliau a’r profiad rydych wedi’u casglu ar hyd eich bywyd gwaith fod o werth mawr i gyflogwyr. Ond efallai y byddwch eisiau adnewyddu neu adeiladu ar rai o’r sgiliau hynny, neu roi cynnig ar rywbeth hollol newydd efallai. Dyma rai opsiynau sydd ar gael i bobl o bob oed.
- Mae’r wefan Sgiliau am Oes (gwefan allanol) yn gallu eich helpu i ddod o hyd i gyfleoedd dysgu a chymwysterau newydd er mwyn gwella’ch cyfle i ddod o hyd i waith. Mae hyn yn cwmpasu pob math o ddysgu, o gyfleoedd gloywi byr i ‘Skills Bootcamps’ ar gyfer sectorau penodol, i brentisiaethau lle rydych yn dysgu wrth wneud gwaith go iawn.
- Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol, gall eich Anogwr Gwaith gynnig cymorth cyflogaeth a sgiliau wedi’i deilwra i chi fel rhan o 50 PLUS: Choices (gwefan allanol).
- Darganfyddwch fwy am gyfleoedd sy’n eich galluogi i weithio tra’n hyfforddi ar ein tudalen Sgiliau a hyfforddiant yn y gwaith.
Dychwelyd i’r gwaith
- Os nad ydych yn siwr ble i ddechrau gyda’ch chwiliad gwaith, dilynwch ein pedwar cam hawdd i wella’ch siawns o ddod o hyd i waith. Mae’r rhain yn cwmpasu sut i ddarganfod beth rydych chi’n dda yn ei wneud, i ysgrifennu eich CV ac i wneud cais am swyddi.
- Angen diweddaru eich CV neu greu un newydd? Gall ein tudalen CV a llythyrau eglurhaol
- Mae rhai diwydiannau yn recriwtio ar hyn o bryd ac mae ganddynt fwy o swyddi ar gael nag eraill. Gallwch ddarllen mwy am y rhain ar ein tudalennau sectorau. Mae gwybodaeth hefyd i’ch helpu i gychwyn mewn diwydiant nad ydych wedi gweithio ynddo o’r blaen.
- Defnyddiwch y gwasanaeth Dod o Hyd i Swydd (gwefan allanol). Gyda Dod o Hyd i Swydd, gallwch greu proffil, llwytho eich CV a derbyn rhybuddion e-bost am swyddi newydd a swyddi presennol mewn sector sy’n addas i chi.
- Mae digon o safleoedd swyddi eraill ar gael hefyd. Rhowch gynnig ar chwilio am ‘jobs’ yn Google neu gwnewch eich chwiliad yn fwy penodol i ddod o hyd i’r swyddi gwag cywir i chi, fel ‘swyddi manwerthu yn Llandudno’.
Meddyliwch am waith gwirfoddol
- Gall gweithio i fywyd hwyrach helpu i gefnogi eich iechyd a’ch lles cymdeithasol.
- Os nad ydych yn ystyried cyflogaeth â thâl neu bod arnoch angen rhywbeth sy’n fwy hyblyg, gallai gwaith gwirfoddol eich helpu i barhau i ddefnyddio’ch sgiliau gan roi hwb i’ch hyder a’ch hunan-barch.
- Darganfyddwch pa waith gwirfoddol sydd ar gael neu cysylltwch â’ch canolfan wirfoddoli leol (gwefan allanol).