Neidio i’r cynnwys

Gweithio Hyblyg

teaching

Os ydych chi’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod i ffwrdd, neu os oes gennych broblemau iechyd neu gyfrifoldebau gofalu, efallai mai archwilio cyfleoedd gweithio hyblyg sy’n addas i chi.

Beth yw gweithio’n hyblyg?

Mae gweithio hyblyg yn disgrifio ffordd o weithio sy’n gweddu i anghenion gweithiwr, yn ogystal â’r cyflogwr.

Wrth i’r byd gwaith foderneiddio, mae cyflogwyr yn cyflwyno arferion gwaith mwy hyblyg i recriwtio a chadw’r dalent orau.

Enghreifftiau o weithio hyblyg:

  • Gwaith rhan amser – gweithio llai o oriau mewn wythnos
  • Amser Flecsi – dewis y patrwm rwyt ti’n gweithio
  • Gweithio hybrid – cyfuniad o weithio yn eich man gwaith arferol a gweithio o adref
  • Oriau cyddwysedig neu gywasgedig – gweithio eich oriau dros lai o ddyddiau
  • Rhannu swydd – mae dau neu fwy o weithwyr yn rhannu swydd i gwmpasu rôl lawn amser
  • Shifftiau groesgam – mae gan weithwyr amseroedd cychwyn a gorffen gwahanol i’w cydweithwyr, i gyd-fynd â’u hamgylchiadau
  • Gwaith tymor – oriau i siwtio rhieni sy’n gweithio
  • Oriau blynyddol – oriau sy’n cael ei weithio dros flwyddyn, yn aml mewn shifftiau sydd wedi’i setio gyda chi’n penderfynu pryd i weithio.

Sut gall gweithio hyblyg fy helpu i?

Mae llawer o fanteision i weithio hyblyg. Os ydych chi’n chwilio am swydd, gallai gweithio hyblyg ei gwneud hi’n bosibl i chi ystyried gwahanol fathau o swyddi.

Os ydych eisoes mewn gwaith, gall roi cydbwysedd bywyd gwaith gwell i chi, boddhad swydd uwch a’ch helpu i fod yn fwy cynhyrchiol yn eich rôl. Gall hefyd eich helpu i reoli unrhyw gyfrifoldebau gofalu sydd gennych yn well.

Os nad oes gan y swyddi rydych yn ymgeisio amdanynt weithio hyblyg fel rhan o’r swydd ddisgrifiad, rydych yn gyfreithiol yn cael gwneud cais am weithio hyblyg pan rydych wedi gweithio i gyflogwr am 26 wythnos neu fwy. Mae gan bob gweithiwr yr hawl i ofyn am weithio hyblyg, gan gynnwys os ydych yn rhiant, gofalwr neu’n dychwelyd o gyfnod mamolaeth.

Darganfyddwch fwy am weithio’n hyblyg ar gov.uk