Mae gweithlu diogel, proffesiynol a chymwys yn allweddol yn y diwydiant ac mae gwefan Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn darparu ystod o hyfforddiant a chyngor. Mae yna hefyd ganllaw i gyflogwyr ar sut i weithio’n ddiogel yn ystod yr argyfwng COVID-19 ar wefan GOV.UK.
Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu eraill i weithio’n ddiogel yn y diwydiant adeiladu, yna gallai gyrfa fel cynghorydd iechyd a diogelwch fod ar eich cyfer chi. Darganfyddwch fwy am y swydd ar wefan Go Construct ble y gallwch wylio cyfweliad ag ymgynghorydd go iawn.
Allech chi weithio yn y sector adeiladu? Darganfyddwch ble i ddod o hyd i swyddi gwag adeiladu, neu chwiliwch ar wefan Dod o hyd i swydd.