Neidio i’r cynnwys

Manwerthu

Mae manwerthu yn cynnig cyfle i weithwyr gael gyrfa hirdymor, tra'n datblygu sgiliau trwy ystod o gyfleoedd. Mae swyddi gwag manwerthu ar gael ledled y DU, felly beth bynnag fo'ch sgiliau neu gefndir, gallai fod rôl yna i chi.

Mathau o rolau

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio ym maes manwerthu, mae amrywiaeth o swyddi mewn gwahanol feysydd y gallech eu hystyried. Efallai y bydd angen cymwysterau TGAU (neu gyfwerth) ac uwch ar rai o’r rolau hyn, fodd bynnag, mae llawer o gyflogwyr yn cynnig rolau a phrentisiaethau lefel mynediad, nad oes angen y cymwysterau hyn arnynt. Mae’r gwahanol swyddi a allai fod ar gael i chi yn cynnwys: 

  • Ariannwr
  • Cynorthwy-ydd gwerthu 
  • Cyfarwyddwr manwerthu 
  • Prynwr 
  • Gweithredwr marchnata 
  • Rheolwr prosiect manwerthu 
  • Dylunydd 
  • Rheolwr logisteg 
  • Rheolwr siop 

Mae digon o fanteision o weithio yn y sector manwerthu, gan gynnwys:

  • Gall y cyflogau ar gyfer rolau lefel mynediad fod yn uwch na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, a gall rolau rheoli fod yn fwy na £40,000 y flwyddyn.
  • Mae gweithlu amrywiol, cynhwysol a hygyrch sy’n galluogi llawer o geiswyr gwaith ledled y DU i wneud cais am rôl.
  • Mae llawer o swyddi manwerthu yn cynnig oriau gwaith rhan-amser a hyblyg .
  • Gellir darparu hyfforddiant yn y rhan fwyaf o rolau, sy’n golygu bod gyda chi gyfle i symud ymlaen yn gyflym o fewn eich gyrfa.
Woman in face mask, hair net and gloves working in a sterile environment

Sgiliau Dymunol

Y prif bethau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt yw sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid, cyfathrebu, gwytnwch, sgiliau datrys problemau a’r gallu i weithio o fewn tîm. 

Efallai nad oes angen cymwysterau na phrofiad arnoch mewn rôl flaenorol i gael swydd ym maes manwerthu, ac mae’r sgiliau trosglwyddadwy y gallwch eu cynnig yn cyfrif am lawer. 

Dysgu mwy

Sectorau eraill sy’n cyflogi ar hyn o bryd