Beth all eich Canolfan Byd Gwaith leol ei wneud i chi
Beth bynnag fo’ch amgylchiadau unigol, mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn cynnig ystod eang o wasanaethau:
- Help i baratoi ar gyfer gwaith, gan gynnwys hyfforddiant, arweiniad, rhaglenni lleoliadau gwaith, profiad gwaith, gwirfoddoli a chynlluniau treialu swyddi
- Help chwilio am swyddi, gan gynnwys cyngor ar greu neu wella eich CV, help gyda thechnegau cyfweld ac ardaloedd cwsmeriaid gyda chyfrifiaduron y gallwch eu defnyddio i wneud cais am swyddi
- Help i ddechrau eich busnes eich hun
- Help i aros yn y gwaith a symud ymlaen yn eich swydd, gan gynnwys opsiynau ar gyfer cyfuno gwaith gyda gofalu am blant neu gyfrifoldebau gofalu, cadw rhai budd-daliadau unwaith y byddwch chi’n dechrau gweithio ac arweiniad ar sut i ennill mwy o arian.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael anogwr gwaith ymroddedig y byddwch yn ei gyfarfod yn rheolaidd i drafod eich nodau gyrfa, a pha gefnogaeth y gallai fod ei hangen arnoch i gyflawni eich nodau.
Dod o hyd i’ch Canolfan Byd Gwaith Leol
Gallwch ddod o hyd i’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol yn y chwiliad swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.
Dilyn eich Canolfan Byd Gwaith leol ar Twitter
Os hoffech gael diweddariadau rheolaidd am swyddi, digwyddiadau, cyngor gyrfa a chyfleoedd yn eich ardal, gallwch ddilyn eich Canolfan Byd Gwaith lleol ar Twitter.
Mae ‘oriau gwaith’ yn rhedeg yn rheolaidd ac yn lle gwych i glywed gan gyflogwyr sy’n recriwtio yn eich ardal chi. Dewch o hyd i a dilynwch eich Canolfan Byd Gwaith lleol ar Twitter ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol swyddogol yr DWP.
Dolenni defnyddiol eraill
Yn ogystal â’r holl help y gall eich Canolfan Byd Gwaith lleol ei ddarparu, mae llawer o gefnogaeth arall ar-lein, p’un a ydych yn chwilio am swydd ar hyn o bryd, eisiau darganfod pa fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt, neu os ydych am hybu’ch sgiliau.
Mewn gwirionedd, os oes gennych anogwr gwaith gallech drafod rhai o’r opsiynau hyn a’u defnyddio gartref ar ôl i chi ymweld â’ch Canolfan Byd Gwaith.
Dod o hyd i Swydd
I’ch helpu i chwilio am swydd mae gan Dod o hyd i swydd lwyth o rolau a chyfleoedd yn eich ardal leol.
Budd-daliadau a chefnogaeth
Mae deall pa fudd-daliadau sydd gennych hawl iddynt tra eich bod yn chwilio am waith yn bwysig. Mae gan Deall Credyd Cynhwysol yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Cyrsiau Life Skills
Mae Life Skills yn darparu amrywiaeth eang o gyrsiau hyfforddi a phecynnau cymorth am ddim i gryfhau eich CV a’ch helpu i ddod o hyd i swydd mewn sawl gyrfa.
Cymwysterau Lefel 3
Dewch o hyd i restr o golegau a darparwyr hyfforddiant sy’n cynnig lleoedd am ddim ar gyrsiau lefel 3. Dysgwch sgiliau newydd, gweithiwch yn y swydd, ac ennill cymhwyster Safon Uwch (neu gyfwerth) i’ch helpu i ddechrau gyrfa.
Skills Bootcamps
Mae Skills Bootcamps yn cynnig cyrsiau hyblyg, am ddim, o hyd at 16 wythnos sydd wedi’u cynllunio i’ch paratoi ar gyfer gyrfa.
Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol
Archwiliwch gyrsiau ar-lein am ddim i helpu i ehangu‘ch sgiliau a’ch gwybodaeth, mewn ystod o feysydd. Gallai dilyn cwrs ar-lein eich helpu i ddod o hyd i swydd, neu symud ymlaen â’ch rôl bresennol, yn ogystal â dod o hyd i gyfleoedd newydd a chryfhau eich CV. Dewch o hyd i gwrs ar Wasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol.
Asesiad sgiliau
I’ch helpu i ddod o hyd i swydd sy’n cyfateb i’ch sgiliau presennol, beth am gymryd asesiad sgiliau am ddim?
Mae’r asesiad yn cynnwys cwestiynau hawdd sy’n gysylltiedig â phrofiad a diddordebau blaenorol. Gall y canlyniadau helpu i nodi eich sgiliau trosglwyddadwy a gallwch drafod y rhain yn eich apwyntiadau Canolfan Byd Gwaith.