Nid yw llwybr gyrfa yn un llinell syth nes i chi gyrraedd ymddeoliad.
Gyda chymaint o gyfleoedd amgen, newydd yn codi, ni fu cymryd rheolaeth o’ch llwybr gyrfa erioed mor gyffrous!
Mae Fledglink yn rhannu ychydig o lwybrau gyrfa y gallech eu cymryd…
Gwaith dros dro
Mae gwaith dros dro yn ffordd wych o brofi gyrfa nad ydych efallai wedi meddwl amdano’n wreiddiol ac eto mae’n rhywbeth sydd heb gael ystyriaeth gan lawer o geiswyr gwaith
Gallai hyblygrwydd gwaith dros dro hefyd olygu y gallwch ddewis pan fyddwch yn gweithio yn ogystal ag ennill rhywfaint o arian ychwanegol.
Os ydych yn chwilio am asiantaeth recriwtio, gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis aelod o’r Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth. Maent yn cael eu cwmpasu gan god ymarfer sy’n sicrhau safonau uchel.
Dielw
Yn angerddol am helpu eraill a gwneud y byd yn lle gwell? Os felly, gallai’r sector dielw fod ar eich cyfer.
Gall fod yn sector anodd mynd i mewn iddo ac efallai y bydd angen i chi wneud rhywfaint o waith gwirfoddol i ddechrau. Ond os ydych yn angerddol ac yn gweithio’n galed, gallech ddod o hyd i lwybr gyrfa gwerth chweil yn y sector dielw.
Mae yna lawer iawn o gwmpas o ran cyfleoedd gydag elusennau ac amrywiaeth o fathau i ddewis o’u plith. Mae gwefan Charity Job yn hynod ddefnyddiol o ran chwilio a gwneud cais am swyddi yn y sector.
Mae gweithio mewn busnes dielw yn golygu llawer o waith caled a gall olygu cyflog is. Fodd bynnag, mae’r boddhad o wneud gwahaniaeth i fater rydych yn poeni amdano yn fwy na digon gwerth chweil i rai pobl.
Entrepreneuriaeth
Dal ddim yn siŵr bod unrhyw un o’r dewisiadau amgen hyn ar eich cyfer? Efallai bod cerfio’ch llwybr gyrfa eich hun a dechrau eich busnes eich hun yn rhywbeth y dylech chi roi cynnig arno!
Mae bod yn fos arnoch chi’ch hun yn dod â llawer o anawsterau, ond gall hefyd gynnig ymdeimlad o foddhad, rhyddid ac angerdd sy’n brin i’w gael mewn unrhyw swydd arall. Mae perchen ar eich busnes eich hun yn golygu gwneud popeth ar eich telerau eich hun ac mae’r potensial am elw yn ddiderfyn.
Nid yw entrepreneuriaeth yn hawdd ac yn sicr nid ar gyfer y gwangalon. I fod yn entrepreneur, mae angen i chi fod yn hynod o wydn. Mae risg bob amser na fydd y busnes yn llwyddo ac os bydd, gall tyfu cwmni gymryd llawer o amser ac ymrwymiad.
Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a bod gennych syniad busnes a allai weithio, gallech fod yn gymwys i gael y Lwfans Menter Newydd. Darganfyddwch fwy am gymhwysedd a sut i wneud cais.
I gael mwy o gyngor gyrfa a mynediad at gyfleoedd gwaith ewch i wefan Fledglink