Neidio i’r cynnwys

Chwilio am waith os ydych yn anabl

Two women working together around a laptop

Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor, rydych yn cael eich gwarchod rhag gwahaniaethu yn ôl y gyfraith. 

Dros y degawdau diwethaf rydym wedi gweld newidiadau gwirioneddol yn niwylliant y gweithle yn y DU, ond gall gwneud cais am swydd barhau i fod yn anodd os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor. Ond peidiwch â phoeni, mae yna lawer o gefnogaeth ar gael i’ch helpu a’ch arwain. 

Trwy ystyried cwmnïau sydd â bathodyn Hyderus o ran Anabledd, gallwch fod yn sicr bod y cwmni wedi ymrwymo i adeiladu gweithle mwy cynhwysol sy’n rhoi cyfle i bobl anabl ffynnu yn y gwaith. 

Oeddech chi’n gwybod bod dros 11 miliwn o weithwyr cyflogedig bellach yn gweithio i gwmnïau Hyderus o ran Anabledd ledled y wlad. 

Beth yw Hyderus o Ran Anabledd?

Mae’r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn gynllun 3-cam sy’n cael ei gefnogi gan y Llywodraeth sy’n hyrwyddo arferion da cyflogwyr i gefnogi pobl anabl i fynd i’r gwaith a gwneud cynnydd. 

Mae hyn yn golygu y gallwch fod yn hyderus wrth fynd at gwmni cofrestredig am addasiadau yn y gweithle, fformatau cyfweliad amgen neu unrhyw amrywiad arall a allai eich helpu i fynd i mewn a bwrw ymlaen yn eu cwmni. 

Dod yn hyderus

Efallai nad yw pob cwmni wedi clywed am y gynllun Hyderus o ran Anabledd eto. Nid yw hwn yn golygu ni fydd cwmni sydd heb gofrestru yn eich trin yn deg – i’r gwrthwyneb, mae’r rhan fwyaf o gwmnïau eisiau bobl wych i lenwi eu swyddi. 

Ond fel unrhyw ceisiwr gwaith byddwch am wybod popeth am gwmni cyn i chi wneud cais, a gall ymchwilio os yw’n Hyderus o ran Anabledd fod yn cam ddoeth. 

Gallwch nawr hidlo eich chwiliad ‘Dod o hyd i swydd’ gan gwmnïau Hyderus o ran Anabledd, felly gall hwn fod yn man cychwyn gwych i ddechrau eich chwiliad swydd. 

Ac wrth gwrs rydyn ni’n gwybod pa mor anodd y gall fod i fagu hyder a gwytnwch mewnol i wneud cais am swyddi a cheisio am ddyrchafiadau. Mae sawl cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn annog eu gweithwyr anabl i rannu syniadau ac awgrymiadau mewn rhwydweithiau gweithwyr ac i gynnig syniadau i wella arferion yn y gweithle.

Clywch sut mae arweinydd Hyderus o ran Anabledd, Coca-Cola Europacific Partners, wedi cefnogi Mo a Christine.