Neidio i’r cynnwys

Sgiliau a hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith

Smiling young woman in front of whiteboard

Hybu’ch sgiliau

Meddwl am eich opsiynau gwaith neu hyfforddiant a ddim yn siŵr beth i’w wneud nesaf? 

Mae digon o sgiliau a chyfleoedd hyfforddi, yn y swydd ac i ffwrdd o’r swydd. Darganfyddwch fwy am y pethau y gallech eu gwneud ar wefan Skills for Life Yr Adran Addysg. 

Hyfforddiant yn y gwaith

Gallwch ddysgu, ennill profiad a chael eich talu gyda hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith i geiswyr gwaith o bob oed. Darganfyddwch fwy am: 

  • Prentisiaethau – swyddi go iawn sy’n eich galluogi i ennill cyflog tra’ch bod yn dysgu 
  • Hyfforddeiaethau (Lloegr yn unig) – rhaglen sgiliau yn y gwaith i bobl ifanc yn Lloegr i’ch paratoi am swydd neu brentisiaeth 
  • Rhaglen academi waith yn y sector (SWAPs) – cyfleoedd i geiswyr gwaith ddysgu sgiliau newydd a chael profiad o weithio mewn diwydiant penodol 

 

Prentisiaethau

Mae prentisiaeth yn swydd go iawn, gyda chyflog lle rydych chi’n ennill tra byddwch yn dysgu. Byddwch fel pawb arall, gyda chytundeb o waith a gwyliau. 

Mae prentisiaethau ar gael ar gyfer pob oedran. P’un a ydych yn 22 neu 52 oed, os ydych am ddysgu sgiliau newydd yn y swydd, efallai mai prentisiaeth fydd y llwybr gorau i chi. 

Fel prentis rydych yn treulio peth o’ch amser mewn hyfforddiant i ffwrdd o’r swydd, yn aml mewn coleg, prifysgol neu gyda darparwr hyfforddiant lleol. Erbyn diwedd prentisiaeth, bydd gennych y sgiliau a’r wybodaeth gywir sydd eu hangen ar gyfer eich gyrfa ddewisedig neu’r camau nesaf. 

Mae yna filoedd o swyddi gwag prentisiaethau i ddewis ohonynt ac mae rhai’n cynnwys cymhwyster, fel gradd. 

Mae cyfleoedd mewn llawer o wahanol ddiwydiannau, gyda chyflogwyr mawr a bach. 

I fod yn brentis rhaid bod yn 16 oed neu’n hŷn a pheidio â bod mewn addysg llawn amser.

Gallwch ymgymryd â phrentisiaeth p’un a ydych chi’n dechrau yn eich gyrfa, yn newid rolau neu rydych chi’n uwchsgilio yn eich swydd bresennol. Gallwch hefyd wneud cais am brentisiaeth tra byddwch yn dal yn yr ysgol, ond bydd angen i chi fod yn 16 oed neu’n hŷn ac wedi gorffen eich arholiadau blwyddyn 11 cyn i chi ddechrau’r brentisiaeth. 

Chwiliwch a gwnewch gais am brentisiaeth yn agos atoch chi yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban. 

Prentisiaethau Cychwyn Gyrfa

Mae digon o brentisiaethau yn gweddu’n berffaith i berson ifanc sy’n gadael addysg llawn amser. Ewch i Prentisiaethau Cychwyn Gyrfa i weld rhai o’r cyfleoedd hyn. 

Os na allwch ddod o hyd i Brentisiaeth Cychwyn Gyrfa yr ydych yn ei hoffi, gallwch chwilio pob prentisiaeth gan fod y rhan fwyaf o brentisiaethau yn gamau cyntaf gwych i’w cymryd ar ôl i chi adael yr ysgol. 

Hyfforddeiaethau (Lloegr yn unig)

Rhaglen datblygu sgiliau yn y gwaith sydd ar gael ar gyfer pobl ifanc yn Lloegr sy’n eich paratoi am swydd neu brentisiaeth yw hyfforddeiaeth. 

Mae hyfforddeiaethau’n cyfuno cymysgedd o ddysgu yn y dosbarth gyda lleoliad profiad gwaith mewn gweithle go iawn. Gall bara o 6 wythnos hyd at flwyddyn, er bod y rhan fwyaf o hyfforddeiaethau yn para am lai na 6 mis. 

Mae hyfforddeion yn ennill amrywiaeth eang o sgiliau, datblygiad personol a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys cymorth i ddod o hyd i swydd, adeiladu CV, a sgiliau cyfweld. Byddwch hefyd yn cael help gyda Saesneg, mathemateg a sgiliau digidol sylfaenol (os oes ei angen arnoch). Gyda chefnogaeth tîm o arbenigwyr, byddwch yn derbyn cyngor gyrfaoedd personol i’ch helpu i deimlo’n hyderus i wneud eich cam nesaf i fyd gwaith. 

Ni fyddwch yn cael eich talu, ond efallai y byddwch yn cael treuliau ar gyfer pethau fel teithio a phrydau bwyd. 

Gallwch wneud cais os ydych: 

  • yn gymwys i weithio yn Lloegr 
  • ar fin gadael yr ysgol neu’r coleg, neu’n ddi-waith ac nad oes gennych llawer o brofiad gwaith neu ddim profiad gwaith o gwbl 
  • rhwng 16 a 24 oed a chymwysterau hyd at a gan gynnwys Lefel 3 (sy’n cyfateb i Safon Uwch) neu 
  • yn 25 oed gyda chynllun addysg, iechyd a gofal (EHC). 

Chwiliwch a gwnewch gais am gyfleoedd hyfforddeiaeth yn eich ardal chi. 

Rhaglen Academi Gwaith Seiliedig ar Sector

Mae rhaglen academi gwaith seiliedig ar sector (SWAP) yn gyfle i ddysgu sgiliau newydd a chael profiad o weithio mewn diwydiant arbennig, er enghraifft gwaith gofal, adeiladu neu warws. 

Nod y rhaglen yw helpu ceiswyr gwaith sy’n hawlio naill ai Credyd Cynhwysol, Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), i fagu hyder, gwella rhagolygon gwaith a gwella CVs. 

Mae SWAPs yn para hyd at chwe wythnos, ac mae ganddynt dair rhan: 

  • Hyfforddiant cyn cyflogi – modiwl byr o hyfforddiant galwedigaethol sy’n cael ei redeg gan goleg neu ddarparwr hyfforddiant lleol 
  • Profiad gwaith gyda chyflogwr yn y diwydiant, lle gallwch ddysgu sgiliau newydd yn y swydd 
  • Ar ddiwedd y rhaglen, naill ai cyfweliad swydd gyda chyflogwr yn y sector neu os nad oes modd cynnig cyfweliad, help gyda’r broses ymgeisio. 

Byddwch yn parhau i dderbyn budd-daliadau wrth gymryd rhan mewn SWAP, ac os oes angen i chi deithio i fan gwaith y cyflogwr neu i ble mae’r hyfforddiant yn cael ei gynnal, efallai y gallwch dderbyn help gyda chost trafnidiaeth gyhoeddus neu ofal plant priodol. 

Bwriad y rhaglen yw helpu i wella rhagolygon swyddi a helpu cyflogwyr i lenwi swyddi, gan fod pob SWAP yn gysylltiedig ag un neu fwy o swyddi go iawn. Er nad ydych yn sicr o gael swydd ar ôl cwblhau SWAP, mae’n eich helpu i wella’ch cyfle o gael gwaith yn y sector hwnnw. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn SWAP, bydd angen i chi siarad â’ch anogwr gwaith, a fydd yn trafod y math o gyfleoedd sydd ar gael yn eich ardal leol ac os yw SWAP yn iawn i chi. 

Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth, gan gynnwys cymhwysedd a gofynion ar wefan gov.uk. 

Llwybrau eraill i gyflogaeth fedrus

Lefelau T (Lloegr yn unig)

Meddwl am beth i’w wneud ar ôl TGAU? Mae Lefelau T yn gymwysterau technegol y gallwch ddewis yn lle Safon Uwch, cyrsiau ôl-16 eraill neu brentisiaeth. Mae Un Lefel T yn cymryd 2 flynedd o astudio llawn amser ac mae’n cyfateb i 3 Safon Uwch. Ar hyn o bryd, mae 10 cwrs Lefel T y gallwch wneud cais amdanynt mewn ysgolion a cholegau dethol yn Lloegr. Bydd mwy o Lefelau T yn dod yn fuan, gyda mwy nag 20 pwnc ar gael yn y dyfodol, sy’n cwmpasu popeth o amaethyddiaeth i arlwyo, peirianneg a gwyddoniaeth. 

Mae Lefelau T yn dod â dysgu yn y dosbarth a lleoliad diwydiannol estynedig ynghyd ar gwrs sydd wedi’i gyd-ddylunio â chyflogwyr er mwyn i chi fod yn hyderus y bydd y sgiliau rydych chi’n eu dysgu yn eich helpu i gael swydd. 

Byddwch yn treulio 80% o’ch amser yn yr ystafell ddosbarth a 20% ar leoliad diwydiant gyda chyflogwr fel eich bod yn cael dysgu’r sgiliau a’r wybodaeth y mae cwmnïau’n chwilio amdanynt. 

Bydd Lefelau T hefyd yn caniatáu i chi symud ymlaen i brentisiaethau lefel uwch neu astudiaeth bellach fel prifysgol. 

I ddysgu mwy ac i chwilio am Lefelau T yn eich ardal ewch i wefan Lefelau T. 

Mwy o opsiynau

Ewch i’r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol i archwilio gwahanol yrfaoedd, cymharu’ch opsiynau hyfforddi a chael mwy o gyngor a chefnogaeth. 

Gall gwefan Skills for Life yr Adran addysg eich  helpu i ddod o hyd i gyfleoedd a chymwysterau dysgu newydd i gefnogi eich chwiliad swydd.