Mae ystod o swyddi yn y sector – gweithio gyda stoc, pacio archebion a gyrru tryciau fforch godi. P’un a ydych yn pigo, pacio, sortio neu sganio, gallai fod swydd berffaith i chi.
Gall rolau gynnwys:
- derbyn nwyddau a’u storio
- gwirio am eitemau sydd wedi’u difrodi neu ar goll
- symud stoc â llaw neu gydag offer a/neu beiriannau
- pacio a lapio nwyddau
- llwytho nwyddau i’w hanfon
- cadw cofnodion stoc
- glanhau a thacluso’r warws
Mae’r cyflog ar gyfartaledd oddeutu £21,000 y flwyddyn.
Mae rhai cwmnïau sy’n recriwtio ar gyfer rolau warysau a dosbarthu ar hyn o bryd yn cynnwys:
Mae gan Amazon amrywiaeth o rolau ar gael ym maes warysau, gan gynnwys Gweithredwyr Warws a Gweithredwyr Dosbarthu ledled y DU. Ewch i wefan Jobs at Amazon .
Mae ‘Clipper’ yn recriwtio ar gyfer Gweithredwyr Warws a rolau warysau amrywiol gan gynnwys Arweinwyr Tîm a rolau rheoli. Gellir gweld swyddi gwag ar wefan Clipper.