Pan fyddwch yn hawlio Credyd Cynhwysol, bydd un o’n anogwyr gwaith yn cynnig cefnogaeth wedi’i deilwra i chi er mwyn gwella’ch cyfle o ddod o hyd i waith.
Yn ystod wythnosau cyntaf eich cais Credyd Cynhwysol fe welwch eich anogwr gwaith yn wythnosol. Byddant yn dod i’ch adnabod chi, eich profiad a’ch sgiliau a deall pa gyngor a chefnogaeth y gall fod angen arnoch fel y gallant eich helpu i’ch symud i mewn i waith.
Mae staff y ganolfan waith yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr lleol i’w helpu i lenwi eu swyddi gwag.
Efallai eich bod chi’n meddwl nad oes gennych chi’r sgiliau na’r cymwysterau cywir i wneud cais am rai swyddi. Ond ar gyfer sawl rôl efallai na fydd angen cymhwyster na hyfforddiant penodol arnoch chi i wneud cais.
Bydd eich anogwr gwaith yn:
- Cytuno â chi yn eich cyfarfod Ymrwymiad Hawlydd yr hyn rydych yn gallu ei wneud o ran chwilio am a dod o hyd i swydd a’n disgwyliadau ohonoch i gyflawni’r cytundeb hwnnw
- Trafod y farchnad lafur leol, siarad â chi am gyflogwyr yn eich ardal sy’n recriwtio a pha fath o bobl a sgiliau mae’r cyflogwyr hynny’n chwilio am
- Eich paru â’r swyddi gwag presennol
- Siarad â chi am sgiliau trosglwyddadwy mynd i’r afael ag unrhyw fylchau yn eich sgiliau a’ch cyfeirio at hyfforddiant os oes angen
- Trafod cyflogwyr lleol sy’n cynnig profiad gwaith, neu Raglen academi waith yn seiliedig ar sector (SWAPs) – mae hyn yn ffordd dda o roi cynnig ar sector neu ddiwydiant newydd nad ydych wedi ystyried o’r blaen
- Eich cynghori am wefannau eraill lle gallwch chwilio am waith.
Mae’r cyngor a chefnogaeth eraill gallwch ddisgwyl yn cynnwys:
- Help i gael eich CV neu lythyr eglurhaol wedi’u diweddaru
- Cyngor ar ddefnyddio cyfrifon e-bost proffesiynol a negeseuon llais wrth geisio am swyddi
- Cyngor ar wirio’ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol – efallai y bydd cyflogwyr yn edrych ar y rhain os ydynt yn cynnig cyfweliad i chi
- Help gyda thechnegau cyfweld, cyfweliadau sy’n seiliedig ar gymhwysedd, awgrymiadau da a hyd yn oed ffug ymarfer cyfweld lle bo angen
- Mae gan ganolfannau gwaith ardal gwsmeriaid gyda chyfrifiaduron y gallwch eu defnyddio i wneud cais am swyddi.
Mae cefnogaeth ychwanegol i’ch helpu i symud i waith:
- Bydd eich anogwr gwaith yn siarad â chi am ‘Gyfrifiadau gwell eich byd’ i’ch helpu i ddeall yr elfen ariannol o gymryd swydd a sut y gallai hyn effeithio ar eich Credyd Cynhwysol
- Os oes gennych gyflwr iechyd, bydd eich anogwr gwaith yn trafod unrhyw addasiadau rhesymol efallai y bydd angen arnoch i’ch helpu i symud i’r gwaith
- Efallai y bydd sesiynau grŵp ar gael yn eich ardal leol i drafod peth o’r cymorth uchod.
Gofynnwch i’ch anogwr gwaith am unrhyw gymorth lleol arall sydd ar gael yn eich ardal chi, gan fod gennym lawer o sefydliadau lleol sy’n gweithio’n agos gyda chwsmeriaid Canolfan Byd Gwaith i’ch helpu i oresgyn unrhyw rwystrau a’ch symud i’r gwaith cyn gynted ag y gallwn.