- Mae’n iawn dod â neu ofyn am ddiod o ddŵr cyn i’r cyfweliad ddechrau.
 - Wrth i’r cyfweliad fynd yn ei flaen, gadewch amser i’ch hun feddwl cyn ateb pob cwestiwn. Mae cymryd anadl yn arafu cyflymder siarad a’n rhoi eiliad i chi gael eich meddyliau at ei gilydd. Efallai bydd hyn yn eich helpu i wneud eich pwyntiau’n glir, ac osgoi migno geiriau.
 - Defnyddiwch ymadroddion i brynu amser i feddwl. Er enghraifft, gall dweud ‘mae hwnna’n gwestiwn diddorol iawn, alla i gymryd eiliad i feddwl amdano?’ roi amser i chi dawelu eich meddyliau a geirio’ch ateb yn glir.
 - Peidiwch â bod ofn dweud efallai bod yna rai sgiliau nad oes gennych chi eto. Os byddwch yn esbonio eich bod yn awyddus i ddysgu mae cyflogwyr yn aml yn hapus i’ch hyfforddi.