Neidio i’r cynnwys
Woman standing next to white board holding marker pen.

Digidol a Tech

Mae’r byd yn mynd yn fwy digidol nag erioed a nid yw gweithio yn y sector hwn erioed wedi bod mor gyffrous. Mae Llundain eisoes yn un o'r hybiau technoleg a digidol mwyaf yn Ewrop - felly beth am wneud y gorau ohono a chymryd y cam nesaf i ddechrau neu ddatblygu'ch gyrfa yn y maes digidol.

Mathau o Swyddi

Mae’r DU wedi denu digon o gewri technoleg i sefydlu busnes yma fel Google, Apple, Facebook, Microsoft, CISCO, IBM a llawer mwy. Mae Silicon Roundabout (‘Tech City’) a ‘MediaCityUK’ Manceinion hefyd yn gartref i niferoedd uchel o fusnesau cychwynnol Tech a Digidol, ac mae etifeddiaeth Parc Olympaidd Llundain yn bwll poeth o ddiwydiannau Digidol a Chreadigol newydd ac arloesol.

Nid yw pob swydd ddigidol am ddatblygu meddalwedd, mae ystod o rolau eraill ar gael yn sector hefyd. Efallai gallai’ch symudiad gyrfa nesaf fod fel Dadansoddwr Busnes, Peiriannydd Data, Ymgynghorydd Seiber, Dylunydd Graffig, Profwr, Dylunydd Profiad y Defnyddiwr neu un o’r cyfleoedd digidol cyffrous eraill yn y brifddinas.

Manteision o weithio yn y maes Digidol a Technoleg

  • Os nad oes gennych y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnoch eto, y newyddion gwych yw, wrth i’r diwydiant technoleg ffynnu, ledled Llundain mae llawer o gyfleoedd digidol ar gael i’ch helpu i ennill y sgiliau cywir.
  • Gall ddysgu rhywbeth newydd neu adnewyddu eich gwybodaeth wneud gwahaniaeth enfawr i’ch rhagolygon a’ch hyder. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd hi’n dod i sgiliau digidol – mae 82% o swyddi bellach eu hangen, ac mae’r nifer o swyddi digidol yn tyfu bron i deirgwaith mor gyflym â rolau eraill.
  • Gallai adolygu eich sgiliau digidol rhoi wir fantais i chi mewn cyfweliad drwy dynnu sylw at beth gallwch ei gyfrannu i’r swydd. Gellir trosglwyddo llawer o sgiliau i rolau eraill a gallai set sgiliau ehangach agor cyfleoedd mewn diwydiannau neu sectorau nad ydych erioed wedi’u hystyried.
  • Bydd cyflogaeth yn y galwedigaethau proffesiynol TG a telegyfathrebu yn tyfu 2.19% bob blwyddyn – bron pum gwaith mwy cyflym na chyfartaledd y DU
  • Mae menywod yn cyfrif am ddim ond 17% o weithwyr proffesiynol TG a Thelegyfathrebu ond nod y fenter Merched a TG gan Gyngor Sgiliau’r Sector E-Sgiliau yw gwneud gwahaniaeth i’r gymysgedd rhywedd a delwedd y diwydiant.
Software engineer writing computer code on 2 desktop screens

Sgiliau dymunol

Mae cannoedd o gwmnïau’n defnyddio platfformau technoleg i drawsnewid eu busnes, ac mae angen tîm o ddatblygwyr ar bob un i wneud hynny. I fod yn ddatblygwr, rydych angen sgiliau codio gwych a dealltwriaeth o sut i adeiladu meddalwedd. Felly os ydych yn gwybod eich Sgript Java o’ch HTML, mae’r set sgiliau amlbwrpas hon yn eich gwneud yn ased gwerthfawr i ystod eang o gwmnïau. Ond peidiwch â phoeni os nad oes gennych y sgiliau digidol hyn eto – gweler yr adran nesaf am sut y gallwch wella eich rhagolygon gyrfa ddigidol.

Dysgu mwy

CYMORTH OS OES GENNYCH ANABLEDD NEU GYFLWR IECHYD HIRDYMOR

Mae llawer o gyflogwyr yn y sector hwn yn aelodau o’r cynllun Hyderus o ran Anabledd. Mae hyn yn golygu eu bod wedi ymrwymo i gamau gweithredu a fydd yn darparu cyfleoedd sy’n gysylltiedig â gwaith i bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol. Gallwch chwilio am swydd gyda chyflogwr Hyderus o ran Anabledd ar Dod o hyd i swydd.

Gall Mynediad i Waith dalu tuag at y costau am gymorth cyfathrebu mewn cyfweliad swydd ac efallai y gall ddarparu cymorth ymarferol neu iechyd meddwl parhaus pan fyddwch yn cael swydd. I gael gwybod a ydych yn gymwys, edrychwch ar y canllawiau diweddaraf.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn

Articles

Sectorau eraill sy’n cyflogi ar hyn o bryd