Neidio i’r cynnwys
Man in a hair net transporting a barrel of food across a warehouse floor

Gweithgynhyrchu

Mae’r sector gweithgynhyrchu yn y DU yn cyflogi 2.7 miliwn o bobl ar draws mwy na 90,000 o gyflogwyr, ac mae cyflogau yn y diwydiant yn tueddu i fod yn uwch na chyflog cyfartalog y DU. Er mai cynhyrchu bwyd a diod yw un o feysydd mwyaf y sector hwn, mae llawer o gyfleoedd ym meysydd cynhyrchu modurol, awyrofod a gwaith swyddfa.

Mathau o swyddi

Mae gweithgynhyrchu yn rhan hanfodol o economi’r DU a gallai fod â rôl sy’n addas i chi. Mae ganddi ystod amrywiol o swyddi, gan gynnig cyflogaeth i bobl ag ystod eang o sgiliau, talentau a chefndir. Edrychwch ar y mathau o swyddi y gallwch ddechrau ynddynt

Mae llawer o swyddi sy’n gofyn am ychydig neu ddim profiad, ac fel arfer mae hyfforddiant yn y swydd ar gael. Bydd rhai cyflogwyr gweithgynhyrchu yn cynnig cyfleoedd dysgu a datblygu trwy gydol eich gyrfa ac mae prentisiaethau hefyd ar gael o fewn y diwydiant.

Mae’r rhan fwyaf o rolau gweithgynhyrchu yn golygu llawer mwy na gweithio ar linell gynhyrchu. Gyda chynhyrchu bellach yn cael ei awtomeiddio i raddau helaeth gallwch hefyd weithio ym meysydd cyfrifeg, marchnata, cyfryngau digidol a chymdeithasol, dylunio, gwaith labordy, caffael a pheirianneg.

Manteision o weithio mewn gweithgynhyrchu

  • Cyflogau’n uwch na sectorau eraill ar gyfartaledd
  • Gyrfaoedd ar gael mewn maes llewyrchus o economi’r DU
  • Mae llawer o swyddi yn cynnig dechrau ar unwaith
  • Hyfforddiant, dysgu a datblygiad mewn gwaith
  • Amrywiaeth eang o rolau ar gael
Woman in face mask, hair net and gloves working in a sterile environment

Sgiliau dymunol

Nid oes angen unrhyw sgiliau penodol na phrofiad blaenorol am lawer o swyddi. Fodd bynnag, mae’r ystod amrywiol o swyddi gweithgynhyrchu yn golygu y bydd sgiliau a enillwyd mewn sectorau eraill yn drosglwyddadwy.

Mae rhai rolau ym maes gweithgynhyrchu lle ceisir sgiliau, cymwysterau a phrofiad perthnasol mewn pynciau STEM.

Dysgu mwy

CYMORTH OS OES GENNYCH ANABLEDD NEU GYFLWR IECHYD HIRDYMOR

Mae llawer o gyflogwyr yn y sector hwn yn aelodau o’r cynllun Hyderus o ran Anabledd. Mae hyn yn golygu eu bod wedi ymrwymo i gamau gweithredu a fydd yn darparu cyfleoedd sy’n gysylltiedig â gwaith i bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol. Gallwch chwilio am swydd gyda chyflogwr Hyderus o ran Anabledd ar Dod o hyd i swydd.

Gall Mynediad i Waith dalu tuag at y costau am gymorth cyfathrebu mewn cyfweliad swydd ac efallai y gall ddarparu cymorth ymarferol neu iechyd meddwl parhaus pan fyddwch yn cael swydd. I gael gwybod a ydych yn gymwys, edrychwch ar y canllawiau diweddaraf.

 

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn

Gweithio yn ddiogel yn ystod Coronafeiwrws

Canllaw ar gyfer pobl sydd yn gweithio yn neu redeg swyddfeydd, ffactrïoedd, warysau, labordai a chyfleusterau ymchwil ac amgylcheddau dan do tebyg.

Ewch i'r safle

Erthyglau

Sectorau eraill sy’n cyflogi ar hyn o bryd