BETH YDYM YN EI OLYGU WRTH SWYDDI GWYRDD
Wrth i economi’r DU ddod yn wyrddach, mae angen help ar rai diwydiannau i addasu eu cynhyrchion a’u prosesau i leihau eu hallyriadau. Mae eraill yn gweithio ar dechnoleg werdd, er enghraifft cerbydau trydan a goleuadau LED. Mae rhai yn darganfod gweithgareddau gwyrdd cwbl newydd i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Mae hyn i gyd yn creu cyfleoedd gwaith newydd cyffrous.
Mae swydd werdd yn berffaith os ydych chi’n mwynhau bod yn egnïol, gweithio y tu ôl i’r llenni a cheisio rôl amrywiol ond gwerth chweil.
PA FATHAU O ROLAU SYDD AR GAEL?
Gyda swyddi mewn sectorau gan gynnwys prentis ceidwad cefn gwlad, arbenigwr ynni clyfar, gosodwr paneli solar, gweithiwr ailgylchu a thechnegydd tyrbinau gwynt i beiriannydd cerbydau trydan, dadansoddwr data a rheolwr fferm, mae’r swyddi’n amrywiol. Bydd y swydd werdd a gymerwch yn dibynnu ar eich diddordebau, sgiliau, profiad a chymwysterau.
Mae sgiliau a chymwysterau defnyddiol i’ch helpu i gael swydd werdd yn cynnwys:
- TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg
- cymhwyster achrededig ar Lefel 3 neu uwch
- gwaith tîm da
- y gallu i addasu
- dealltwriaeth o iechyd a diogelwch
- dealltwriaeth o gadwraeth natur
PA SECTORAU ALLAI CHI FOD YN GWEITHIO YNDDO?
Mae swyddi gwyrdd ar gael ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys:
- Adeiladu
- Ynni a Mwyngloddio
- Technolegau Ffasiwn
- Cyllid
- Gofal Iechyd
- Gweithgynhyrchu
- Ynni adnewyddadwy a’r amgylchedd
- Cludiant
DOD O HYD I SWYDD
Dod o hyd i swyddi amser llawn neu ran-amser yng Nghymru, Lloegr a’r Alban
Cymerwch olwg ar ein tudalen dod o hyd i waith i weld y gwahanol sectorau neu ewch i’r gwefannau isod i ddarganfod cyfleoedd newydd.