Neidio i’r cynnwys

Gweithgynhyrchu bwyd a diod

Mae cynhyrchu bwyd a diod yn ddiwydiant bywiog, arloesol a chyffrous. Dyma'r sector gweithgynhyrchu mwyaf yn y wlad (yn fwy na gweithgynhyrchu cerbydau ac awyrennau wedi’u cyfuno) ac mae'n rhan hanfodol o economi'r DU.

MATHAU O ROLAU

Mae bron i hanner miliwn o bobl yn chwarae rhan wrth gynhyrchu amrywiaeth enfawr o fwyd a diod sy’n cael ei fwynhau yma yn y DU a’i allforio ledled y byd.

Mae’n ddiwydiant amrywiol, sy’n cynnig cyflogaeth i bobl o bob oed, gydag amrywiaeth eang o sgiliau a thalentau.

Mae swyddi ym maes cynhyrchu a phacio sydd ddim angen profiad blaenorol, a rolau mwy technegol neu arweinyddiaeth, er enghraifft, mewn gwyddoniaeth bwyd, rheoli ansawdd a chynaliadwyedd.

Yn ogystal, mae yna lawer o rolau sy’n cefnogi’r broses gynhyrchu, o dechnegwyr a pheirianwyr sy’n cadw’r gynhyrchiad yn llifo, i’r staff swyddfa a gwerthu a gyrwyr loriau sy’n cael y bwyd i’r siopau a’r cwsmeriaid.

MANTEISION O WEITHIO MEWN GWEITHGYNHYRCHU BWYD A DIOD

  • Mae llawer o swyddi lefel mynediad ar gael ar hyn o bryd, a does dim angen cymwysterau na phrofiad penodol arnoch chi bob amser. Chwiliwch ar wefan Dod o Hyd i Swydd i weld beth sydd ar gael.
  • Mae’r sector yn talu cyflogau cystadleuol ac yn cynnig cyfleoedd i symud ymlaen drwy amrywiaeth o rolau ar draws pob lefel sgiliau.
  • Mae gweithgynhyrchwyr bwyd a diod wedi’u lleoli ar draws y wlad, felly mae’n bosib y bydd swyddi rownd y gornel.
  • Mae cynhwysiant ac amrywiaeth yn gynyddol bwysig mewn gweithgynhyrchu bwyd a diod.
Woman in face mask, hair net and gloves working in a sterile environment

Sgiliau Dymunol

Mae gweithgynhyrchwyr bwyd a diod yn chwilio am gyfathrebwyr clir, pobl sy’n gweithio’n dda mewn tîm, yn dangos gwytnwch ac wedi ymrwymo i safonau o ansawdd uchel. 

Mae llawer o fusnesau’n cynnig y cyfle i ennill cymwysterau proffesiynol mewn meysydd fel rheoli tîm neu brosiectau, iechyd a diogelwch, a diogelwch bwyd – gan ganiatáu i chi adeiladu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddatblygu eich gyrfa. 

Mae’r rhan fwyaf o fusnesau bwyd a diod hefyd yn cynnig ystod eang o brentisiaethau a phrentisiaethau gradd all gefnogi eich datblygiad a’ch dilyniant yn eu busnes. Gallwch chwilio am gyfleoedd prentisiaeth ar wefan Find an Apprentice. 

Ar gyfer swyddi mwy technegol ac uwch, fel arfer bydd angen rhai cymwysterau neu brofiad arnoch. Os oes gennych gymwysterau mewn pynciau STEM (sef Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg neu Fathemateg), yna gall llawer o rolau arbenigol fod yn agored i chi, gan gynnwys peirianwyr bwyd, gweithredwyr prosesau, technolegwyr bwyd, technolegwyr pecynnu neu dechnegwyr datblygu cynnyrch newydd. 

Ar gyfer rolau lefel graddedigion, fel arfer byddech angen o leiaf gradd 2:2 mewn pwnc sy’n berthnasol i’r swydd rydych chi’n gwneud cais amdano. 

Dysgu mwy

DOLENNI PELLACH

  • Mynnwch help i ddod o hyd i swydd fwyd sy’n gyfleus i chi drwy ddefnyddio’r Teclyn Gyrfaoedd Bwyd defnyddiol ar wefan Prifysgol Nottingham.
  • Os ydych chi wedi eich lleoli yn yr Alban, mae gwefan Food and Drink in Scotland yn ffynhonnell wybodaeth dda
  • Os ydych chi mewn addysg llawn amser (neu wedi gorffen yn ddiweddar), edrychwch ar wefan Tasty Careers.
  • Am fwy o wybodaeth gwyliwch fideo Gweithio yn Niwydiant Bwyd y DU o wefan Association of Labour Providers.
  • Os ydych chi’n awyddus i gael y sgiliau i fynd i mewn i’r sector hwn neu eraill, mae Skills Bootcamps wedi’u cynllunio i’ch paratoi ar gyfer gyrfa.
  • Adult Skills Learning Offer – os nad oes gennych gymhwyster lefel 3 (Safon Uwch neu AS), efallai y byddwch yn gymwys i gael hyfforddiant am ddim gyda chyfleoedd yn y sector hwn ac eraill.
  • Os ydych rhwng 16-19 oed efallai y byddwch yn gymwys i wneud T-Level yn y sector hwn neu eraill.

Sectorau eraill sy’n cyflogi ar hyn o bryd