Neidio i’r cynnwys

Rhestr wirio llythyr eglurhaol

Wrth wneud cais am swydd, mae angen CV a llythyr eglurhaol ar bob cais am swydd. Mae anogwr gwaith o’r Ganolfan Byd Gwaith yn esbonio pam ei bod yn bwysig teilwra’r cynnwys i’r swydd rydych yn ymgeisio amdani:

Eich llythyr eglurhaol yw eich cyflwyniad ac o ganlyniad mae angen ymchwil i’r swydd dan sylw a’r sgiliau allweddol sydd eu hangen ar y swydd. Ni ddylai eich llythyr eglurhaol fod yn grynodeb o’ch CV yn unig ond ei ategu trwy dynnu sylw at yr agweddau mwyaf perthnasol sy’n ymwneud â’r swydd. Er enghraifft, os yw’r swydd yn gofyn am “waith tîm” a bod gennych rai enghreifftiau blaenorol yn eich hanes gwaith, defnyddiwch eich llythyr eglurhaol i’w dangos. Fe’ch cynghorir i greu drafft a chael rhywun i’w brawf ddarllen ar eich rhan, fel ffrindiau a theulu.

Rhestr wirio llythyr eglurahol

Gwewch yn siwr ei fod

  • wedi’i deilwra i’r swydd
  • yn cynnwys pennawd y teitl swydd, rhif cyfeirnod a’ch enw
  • ar un dudalen heblaw eich bod wedi datgan yn wahanol
  • wedi cyfeirio at berson penodol
  • yn wirioneddol yn gwella eich CV
  • wedi cael ei brawf-ddarllen

Gellir darganfod mwy o awgrymiadau a chyngor ar sut i ysgrifennu llythyr eglurhaol da ar wefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol.

Erthyglau